Rhif y ddeiseb: P-06-1390

Teitl y ddeiseb:  Rhoi diwedd ar bob bwyd â chymhorthdal yn y Senedd ac i staff Llywodraeth Cymru yn gyffredinol

Geiriad y ddeiseb:  

O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi yn ddiweddar ei bod yn ystyried gwaredu rhai eitemau o brydau bargen, mewn ymgais i orfodi’r cyhoedd yng Nghymru o ran beth i’w fwyta, mae’r ddeiseb hon yn galw am i fwyd â chymhorthdal ddod i ben ar gyfer Aelodau o Senedd Cymru a’u staff.

Pam y dylai pobl Cymru orfod dioddef yn ariannol tra bo’r rheini yn y Senedd a Llywodraeth Cymru yn mwynhau prydau rhad?

Mae pobl yng Nghymru wedi cael llond bol ar y tresmasu cyson ar ein bywydau gan y cyrff busneslyd yn Llywodraeth Cymru sydd am ddweud wrthym beth y dylem ei fwyta neu beidio, tra byddan nhw’n mwynhau bwyd a phrydau â chymhorthdal.

https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/390-fry-up-welsh-politicians-26304030

 

 

 


1.        Y cefndir

Mae gwasanaethau arlwyo ar ystadau Llywodraeth Cymru a’r Senedd yn cael eu darparu gan gontractwyr allanol drwy gontractau arlwyo ar wahân.

Mewn ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth ym mis Gorffennaf 2023, dywedodd Llywodraeth Cymru fod Contract Arlwyo Cymru Gyfan (AWCC) yn darparu gwasanaethau arlwyo i’w hystâd weinyddol yn unig. Mae’r contract, meddai, yn gontract allanol ac nid yw’n cynnwys consesiynau.

Mewn ymateb arall i gais Rhyddid Gwybodaeth ym mis Mehefin 2022, cadarnhaodd Comisiwn y Senedd (y Comisiwn) nad yw’r gwasanaethau arlwyo penodol “yn seiliedig ar gymorthdaliadau pris ar gyfer eitemau sydd ar werth ond ar sail cyfanswm costau’r contract a’r gyllideb i ddarparu’r ystod o wasanaethau sydd eu hangen yn y mannau arlwyo”.

2.     Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Cafwyd ffigurau refeniw a chymhorthdal AWCC ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021-22 a 2022-23 gan Lywodraeth Cymru ac maent wedi’u cynnwys yn y tabl isod.

 

3.     Camau a gymerwyd gan Senedd Cymru

Caiff y gost o ddarparu’r amrywiaeth lawn o wasanaethau ar ystâd y Senedd ei chynnwys yn y Gyllideb Flynyddol y bydd y Comisiwn yn ei chyhoeddi. Yn 2023-24, cyfanswm y gyllideb ar gyfer gwasanaethau arlwyo yw £430,000 ac mae’n cynnwys costau llafur, costau bwyd, costau cyflenwadau, costau cyfarpar a ffi rheoli.

Mae’n caniatáu i’r amrywiaeth o wasanaethau ar ystâd y Senedd gael eu darparu a’u rhedeg, gan gynnwys y caffi cyhoeddus, bwyty’r staff, parlwr te ac ystafell giniawa'r Aelodau yn ogystal â’r holl wasanaethau lletygarwch ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau.

Mae manylion cyllideb flynyddol y Senedd ar gyfer gwasanaethau arlwyo wedi’u cynnwys yn nhabl y Gyllideb Flynyddol ar gyfer 2023-24 isod.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.